Mae arolwg newydd yn dangos fod yn well gan bobl weld tyrbinau gwynt wrth eu cartrefi yn hytrach ffynhonnau ffracio.
Fe wnaeth 65% o’r 2,000 o bobl a holwyd gan ICM ar gyfer Egni Cydweithredol ddweud eu bod yn ffafrio tyrbinau awyr, gyda dim ond 14% yn dewis ffracio am nwy.
Yn ôl yr arolwg barn egni solar oedd y dewis mwyaf poblogaidd, gyda 30% o’i blaid, tra fod 2% o’r sampl yn ffafrio ffracio am nwy fel eu dewis pennaf fel ffynhonnell egni.
Roedd dros hanner yn cefnogi tyrbinau gwynt o fewn dwy filltir o’u cartref, gyda dim ond 19% yn barod i wrthwynebu datblygiad o’r fath.
Yn ôl 78% fe ddylai’r Llywodraeth wneud mwy i helpu cymunedau i gynhyrchu eu hynni ei hunain a chadw’r elw yn lleol.