Drwy gydol y mis rhwng o ddydd Gwener hyd ddydd Sul, caiff gŵyl Helfa Gelf ei chynnal gyda thros 400 o artistiaid mewn 180 o stiwdios, preswylfeydd ac orielau yn agor eu drysau led y pen i’r cyhoedd.

Wrth i’r ŵyl ddathlu ei dengmlwyddiant, mae wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad sy’n para mis ac yn cynnwys arddangosfeydd, cyfnodau preswyl a phrosiectau arbennig yng Ngwynedd, Conwy, Sir y Fflint, Dinbych a Wrecsam.

‘Cyfle’ i artistiaid

Bydd Linda Caswell, sy’n grochenydd, a Carol Bartlett, sy’n creu gwaith tapestri, yn gweithio yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun o heddiw ymlaen. Mae eu gwaith yn herio’r ffiniau rhwng celfyddyd a chrefft , a bydd y ddwy yn cydweithio ar y thema ‘Beth yw Crefft?’

“Roeddwn wrth fy modd pan gafodd fy nghais, ar y cyd â Carol Bartlett, ei dderbyn. Gallwn ddangos ein gwaith i ymwelwyr a dangos ein ffynonellau a’n hysbrydoliaeth,” meddai Linda Caswell.

“Mae datblygiad yr Helfa Gelf yn anhygoel. Mae’r arddangosfeydd a’r preswylfeydd yn rhan bwysig iawn o’r digwyddiad eleni. Mae’n gyfle cyffrous i arddangos a chydweithio a rhwydweithio â chyd-artistiaid,” meddai Su Walls, artist, gwneuthurwr printiau, darlunydd ac artist cyfryngau cymysg.

‘Croeso i bawb’

“Mae croeso i bawb ymweld â stiwdio neu i weld ein gwaith yn un o’r arddangosfeydd neu wrth ymweld â phreswyliad artistig,” meddai Tara Dean, artist, gwneuthurwr printiau a darlunydd.

Dyma’r lleoliadau fydd yn rhan o’r ŵyl eleni,

Oriel Pendeitsh, Caernarfon, agor 5 Medi

Undegun, Wrecsam, agor 5 Medi

Caffi Celf Mostyn, Llandudno

Oriel Wrecsam, Wrecsam

I gael manylion pellach, delweddau a gwybodaeth am y stiwdios, ewch i www.helfagelf.co.uk