Mae swyddogion ym Merthyr Tudful yn ymchwilio i ddigwyddiad a adawodd dyn 38 oed gydag anafiadau parhaol i’w wyneb yn nhafarn y Pickled Pepper yn Aberdâr.

Digwyddodd y ffrae rhwng dau ddyn tua 11 o’r gloch pan oedd y dafarn dal yn brysur ar nos Sul 14 Mehefin, ac mae’r heddlu yn chwilio am dystion a allai helpu â’r ymchwiliad.

Roedd yn rhaid i’r dioddefwr gael triniaeth yn Ysbyty’r Tywysog Siarl oherwydd ei anafiadau.

“Oeddech chi yn nhafarn y Pickled Pepper rhwng 11:30pm a chanol nos ddydd Sul 14 Mehefin? A welsoch dau ddyn yn cael ffrae? Rydym am glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad hwn,” meddai’r Cwnstabl Lynne Jones.

“Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y dyn yn y lluniau CCTV, sydd â thatŵs nodweddiadol ar bob braich. Mae tatŵ hyd lawes lawn ar y fraich chwith, ac mae tatŵ y tu mewn i’r fraich dde.

“Credwn ei fod yn gwisgo crys-t Boss gyda’r gair Boss yn llythrennau mawr ar y blaen a phâr o siorts gyda’r gair Boss i lawr yr ochr chwith.”

Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod, 1500211804, neu gallwch ffonio Crimestoppers yn anhysbys ar 0800 555 111.