Mae cwmni o Gaerdydd wedi cael dirwyo o £28,400 am anwybyddu rheolau diogelwch tân mewn bwyty Indiaidd o’r enw Kismet yng Nghaerdydd.

Yn sgîl hyn, mae Heddlu De Cymru wedi rhybuddio perchnogion busnes de Cymru i dalu sylw arbennig i’w hymrwymiadau cyfreithiol i gadw staff, cwsmeriaid ac eiddo’n ddiogel rhag tân.

Ar ben y ddirwy, mae Kismet Cardiff Limited wedi gorfod talu costau o £4,330 i’r Awdurdod Tân o dan orchymyn Llys Ynadon Caerdydd mewn achos llys ar yr 20fed o Awst eleni.

Roedd swyddogion Diogelwch Tân Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi  canfod diffygion diogelwch tân yn ardal goginio llawr gwaelod y safle, ac ar y lloriau uchaf a oedd yn cael eu defnyddio fel llety preswyl ar y pryd.

Roedd Kismet Cardiff Limited wedi troseddu 10 gwaith yn ôl y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, a oedd yn cynnwys methu â darparu drysau tân hanfodol ac offer ymladd tân.

Croesawodd Gary Johnson, Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y ddedfryd, gan ddweud bod “marwolaethau nifer a allai fod wedi digwydd mor rhwydd” wedi eu hatal.