Comisiynydd y Gymraeg
Fe fydd cwmnïau trenau a bysus yn gorfod darparu gwasanaethau yn y Gymraeg yn unol â’r Safonau Iaith, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Ddechrau’r wythnos roedd Cymdeithas yr Iaith wedi datgelu bod 200 o gyrff – gan gynnwys cwmnïau fel Arriva Cymru a Network Rail  – wedi eu tynnu allan o’r broses o gynnig gwasanaethau dwyieithog.

Yn ôl y Gymdeithas maen nhw wedi derbyn “nifer o gwynion” am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg Trenau Arriva Cymru a Network Rail.

Yn wreiddiol roedd y cwmïau hyn yn rhan o ‘gylch 3’ o ymchwiliad Safonau’r Comisiynydd, ond bu’n rhaid eu hepgor o’r boses.

Ni fydd y 200 o gyrff bellach yn rhan o’r ‘adroddiad cylch 3’ fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn yr hydref.

“Roedd y Comisiynydd yn awyddus i gwblhau ymchwiliadau safonau cylch 3 a chyflwyno adroddiadau i Weinidogion Cymru mewn da bryd fel bod modd iddynt eu hystyried a dechrau llunio rheoliadau cyn etholiad y Cynulliad,” meddai llefarydd.

“Bydd y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiadau cylch 3 i Weinidogion Cymru yn yr hydref.  Ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb ail ystyried a blaenoriaethu’r sefydliadau oedd yn y cylch 3 gwreiddiol.”

Tra bo Cymdeithas yr Iaith yn pryderu na fydd cwmnïau cludiant yn cael eu rhwymo i’r Safonau Iaith, mae’r Comisiynydd yn mynnu bod hynny am ddigwydd.

“Mae’r Comisiynydd yn ymrwymedig i gynnal ymchwiliadau safonau ar y sectorau eraill a enwir yn y Mesur ac mae hynny’n cynnwys sectorau a dynnwyd o’r cylch 3 gwreiddiol.”

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae tynnu’r cyrff oddi ar restr ‘cylch 3’ yn glec i hawliau siaradwyr y Gymraeg.

Meddai llefarydd: “Mae’r holl oedi a’r esgusodion di-ri yn golygu bod llai o ddefnydd o’r iaith ar lawr gwlad – sy’n groes i ddyletswydd statudol y Comisiynydd, a bod rhagor o bobl yn cael eu hamddifadu o’u hawliau i’r Gymraeg.”

Sefydliadau a dynnwyd oddi ar restr ‘cylch 3’ o’r Safonau Iaith a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2014:

1st Choice Transport Ltd
Abbey Cars
Achub y Plant (Save the Children)
Airparks Services
Alpine
Arriva Cymru
Arriva Midlands
Asiantaeth yr Amgylchedd
ATOC
Awdurdod y Diwydiant Diogelwch
Banc Lloegr
Barnardo’s
Berwyn
Briggs Coach Hire
Brodyr James
Brodyr Williams
Bryans Coaches
Bryn Melyn
Buddsoddwyr mewn Pobl
Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladau Peiriannol
Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain
Bws Caerdydd
Cadwch Gymru’n Daclus (Keep Wales Tidy)
Caelloi
Call a Cab
Canolfan Cydweithredol Cymru (Wales Co-operative Centre)
Canolfan Gwasnaethau Gwirfoddol y Fro (Vale Centre for Voluntary Services)
Capitol Hire
Caring Coaches
Carreglefn Coaches
Celtic Travel
Cen ap Tomos
Chepstow Classic Buses
Citywing
Clynnog & Trefor
Collins of Roch
Comisiynydd y Gronfa Gymdeithasol
connect2
Creigiau Travel Ltd
Crickhowell Taxis
Cronfa addysgu ac ymchwilio alcohol
CrossCountry Trains
Crossgates Coaches
Cumfybus
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gar (Carmarthenshire Association of Voluntary Services)
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (Ceredigion Association of Voluntary Services)
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (Gwent Association of Voluntary Services)
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont (Bridgend Association of Vountary Organisations)
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (Powys Association of Voluntary Organisations)
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Benfro (Pembrokeshire Association of Voluntary Services)
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam
Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (Torfaen Voluntary Alliance)
Cyngor Chwaraeon y DU
Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Cyngor Ffilm y DU bellach yn ‘British Film Institute’
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell Nedd Port Talbot
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (Conwy Voluntary Services Council)
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (Denbighshire Voluntary Services Council)(NEWVOL)
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Rhondda Cynon Taf (Interlink RCT)
Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (Flintshire Local Voluntary Council)
Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (Cardiff Third Sector Council)
Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol
Cyngor Ymchwil Perianneg a Gwyddorau Ffisegol
Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol
D A Mason Minibus Hire
D Jones & Son
DANSA
Davies Coaches Ltd
DR Travel
E Jones & Son
Easyway of Pencoed
Edwards Bro
Edwards Coaches
Eifion’s Coaches
EST Coach Ltd
Evans Coaches Tregaron Limited
Express Motors
Ffocws ar Deithwyr
Ffoshelig Coaches
First Call
First Chester & The Wirral
First Cymru
First Great Western
First Somerset & Avon
G H A
G&H Executive Minibuses
George Young’s Coaches
GHA Coaches
Globe Coaches
Glyn Evans
Goodsir
Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (Voluntary Action Merthyr Tydfil)
Gwynfor Coaches
Gwynne Price Transport Ltd
H & H Coaches Ltd
H.D.A. Coaches
Harris Coaches (Pengam) Ltd
HD Hutchinson & Son
Henleys
Hybu Cig Cymru
James Bevan
John’s Coaches
John’s Travel (Merthyr Tydfil)
Jones Login
Knighton Taxis
Lewis Y Llan
Lewis’s Coaches Llanrhystud
Llew Jones Coaches
Lloyds Coaches
Lloyd’s Taxis
Lugg Valley Primrose
M&H Coaches
Mantell Gwynedd Cyf
Medrwn Môn
Megabus
Menyn’s Private Hire
MET Taxis
Mid Wales
Midway
Millington Buses
Mintax
Morris Travel
Motability
N.A.T. Group
National Express Coach Services
National Express
Nefyn Coaches Ltd
Network Rail
Newport Bus
Newport Transport
NSPCC (The National Society for the Provention of Cruelty to Children)
O R Jones
Oares
Oswestry Community Transport
Owens of Oswestry
Owens
P & O Lloyd
Padarn Bus Ltd
Padarn Cars
Parrott Motors Ltd
Passenger Focus
Pat’s Coaches
Pheonix Transport
Phil Anslow
Preseli Rural Transport Association
Price Coaches
Pwyllgor Ymynghorol Trafnidiaeth i’r Anabl
Rees Motors
Richards Bros
Ridgways
RJ Jones Travel
Roy Brown
Sargeant
Sefydliad Datblygu Cymunedol
Select Local Bus Services
Silcox
SNAP Cymru
South Wales Transport
Sprint Transport
Stagecoach Group
Stagecoach Wales
Taf Valley Coaches
Tanat Valley Coaches
The Brecon Beacons National Park Authority (* yn rhinwedd ymchwiliad safonau i mewn i bersonau neilltuedig sy’n darparu bysiau i’r cyhoedd)
The Community Transport Association
The Trainline.com
Thomas Coaches of Porth
Town & Country Bus Ltd
Townlynx
Travel Final Ltd.
Traveline Cymru
Traws Cambria
Tros Gynnal
Vale of Llangollen
Virgin Trains
Voel Coaches
VR Travel
Watts’ Coaches
Y Comisiwn Hapchwarae
Y Cyngor Defnyddwyr Dwr
Y Cyngor Prydeinig
Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
Y Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau
Y Cyngor Ymchwil Meddygol
Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Yeomans Canyon
Ymddiriedolaeth Cronfa’r Teulu ar gyfer Teuluoedd gyda Phlant Anabl Iawn (The Family Fund Trust for Families with Severely Disabled Children)
Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol
Yr Ombwdsman Pensiynau
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cyfyngedig
Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd (wedi disodli British Waterways)
Yr Ymddiriedolaeth Garbon