Richard Green
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am ddyn sydd ar goll o ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Does neb wedi gweld Richard Green, 45, o Bryntirion ers tua 9.30yh nos Fercher.
Mae’n ddyn soled o gorffolaeth, tua 5 troedfedd 6 modfedd o daldra, gyda gwallt brown tywyll.
Dylai unrhyw un sy’n gwybod rhywbeth am ei fynd a dod, gysylltu gyda’r heddlu ar y rhif 101.