Tîm Cymru v Cyprus (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Dilynwch holl brif ddigwyddiadau gêm far Cymru’n erbyn Cyprus yma ar flog byw Golwg360. 

Tîm Cymru: Hennessey; Gunter; Williams; Davies; Taylor; Richards Edwards; King; Ramsey; Robson-Kanu; Bale

Tîm Cyprus: Giorgallides; Dossa Júnior; Demetriou; Antoniades; Laifis; Economides; Charalambides; Makridis; Nikolaou; Mytidis

Cyprus 0 – 1 Cymru (Bale 82′)

– Di-sgôr ar yr hanner

– Edwards yn rhwydo, ond gôl yn cael ei gwrthod am drosedd

21:38: Eilydd i Gymru- Shaun MacDonald yn lle Ramsey. Ramsey heb gael ei gêm orau dros Gymru heno, ond wedi gweithio’n galed fel pawb arall.

21:36: Chwaraewyr ymylol Cymru wedi profi eu gwerth heno – Jazz Richards yn cael gêm dda eto, Dave Edwards hefyd. Dangos pwysigrwydd cael carfan gref.

21:35: Eilydd i Gymru – Simon Church yn dod i’r cae yn lle Gareth Bale. Coleman yn amlwg eisiau gwarchod ei seren.

29:29: Eilydd i Gyprus – Makridis yn gadael y cae, a Sielis yn ymuno â’r frwydr.

21:27 (82′): GÔL I GYMRU! Croesiad gwych gan Richards a pheniad gwell gan Gareth Bale i rwydor. All unrhyw beth stopio’r boi yma?

Jyst beth oedd angen ar Gymru, ac roedd hi’n dod ers rhai munudau – Cyprus wedi dechrau edrych yn flinedig.

12fed gôl Bale mewn 15 gêm dros Gymru – anhygoel.

21:24: Cyfle i Gymru – symudiad da lawr yr asgell chwith a Taylor yn tynnu’r bêl yn ôl i Ramsey, ond ei eirgyd yn syth at y golwr.

21:22: Arwyddion bod Cyprus yn dechrau blino, ambell drosedd flinedig ganddyn nhw.

21:19: Eilydd arall i Gyprus, Englezou yn dod i’r cae yn lle y capten Charalambides.

21:16: Rhediad da arall gan Bale lawr yr asgell chwith ac yn llwyddo i ganfod Vokes yn y cwrt y tro yma, ond yr ymosodwr yn methu rheoli ei ergyd a’r bêl yn syth at y golwg heb unrhyw rym

Gwlad Belg yn arwain 2-1 yn erbyn Bosnia ac Israel 4-0 yn erbyn Andora bellach

21:12: Eilyddio gan Gymru, Sam Vokes yn dod i’r cae yn lle Robson-Kanu, sydd wedi bod yn cario anaf. Bydd Chris Coleman yn gobeithio y gall Vokes ddal y bêl i fyny i’w gyd-chwaraewyr yn hanner Cyprus.

21:10: Eilydd cyntaf y gêm, Kolokoudias yn dod i’r maes yn lle Mytidis oedd yn edrych mor beryglus yn yr hanner cynta’

21:09: Rhediad nodweddiadol i’r cwrt gan Bale, ond neb yna wrth iddo dynnu’r bêl yn ôl.

21:07: Chwarae teg, mae rheolwr Cyprus yn edrych fel ei fod o’n barod i fynd i glybio yn Ayia Napa yn syth ar ôl y gêm.

21:00: Amddiffyn Cymru ar chwâl ar hyn o bryd, ac Ashley Williams yn lwcus i beidio cael ei gosbi am dacl flêr ar ymyl y cwrt.

20:55: Galw am gic o’r smotyn i Gymru wedi tacl y golwr ar Robson-Kanu, ond dim diddordeb gan y dyfarnwr.

20:50: Yr ail hanner wedi dechrau a chyfle cynnar i’r tîm cartref yn gorfodi Hennessey i arbed

20:33: Dyna’r chwiban am hanner amser. Hanner diddorol, digon o gyfleoedd i Gymru, ond Cyprus wedi achosi problemau hefyd. Mynd i fod yn ail hanner cyffrous.

20:30: Ramsey’n gwastraffu cyfle da i Gymru ar ôl rhediad da gan Robson-Kanu. Chwaraewr Arsenal yn methu rheoli’r bêl yn y cwrt, lathenni o’r gôl.

20:28: Cic rydd mewn safle peryg ar yr asgell dde i Gyprus, a symudiad wedi ei baratoi ond Makridis yn ergydio dros y trawst.

20:25: Peryg i Gymru, Mytidis yn glir ar gôl, ond yn camsefyll. Angen bod yn ofalus gyda ymosodwr Cyprus.

20:21: Da clywed Zombie Nation gan gefnogwyr Cymru am y tro cyntaf…yn cael ei dilyn gan yr anthem.

20:20: Y newyddion o gemau eraill grŵp Cymru ydy bod hi’n gyfartal, gôl yr un, rhwng Gwlad Belg a Bosnia ar hyn o bryd, tra bod Israel yn arwain o 3-0 yn erbyn Andora.

20:15 (27′): Y bêl yng nghefn y rhwyd i Gymru! Edwards yn penio i’r rhwyd o groesiad Bale ond y dyfarnwr yn gwrthod caniatau’r gôl oherwydd trosedd gan Robson-Kanu.

20:10: Y tîm cartref sy’n rheoli’r gêm ar hyn o bryd, yn cadw’r meddiant yn dda wrth i Gymru geisio rhoi pwysau arnyn nhw. Dwy bas hir a syth o’r cefn wedi creu problemau i Gymru dros yr ychydig funudau diwethaf.

20:07: Gwaedd am gic o’r smotyn gan y cefnogwyr cartref wrth i Mytidis ddisgyn i’r llawr dan bwysau gan Ashley Williams yn y cwrt. Dyfarwr yn anghytuno

20:02: Y ddau dîm wedi setlo rŵan. Mae Cymru’n chwarae system 5-3-2 gyda Gunter, Williams a Davies yng nghanol yr amddiffyn.

19:58: Cyfle gwych i Taylor. Golwr Cyprus yn methu dal cic rydd isel Gareth Bale a’r bêl yn adlamu oddi-ar ei goesau. Trueni mai amddiffynwr oedd yna i’w chyfarfod, a Taylor yn ergydio’n syth at y golwr. Dylai fod wedi sgorio

19:54: Www, agos gan Ramsey, yn crymanu jyst dros y trawst ar ôl cyfuno’n dda â Bale.

19:51: Mae’n ddechrau nerfus i Gymru, a Chyprus sy’n ennill y gic gornel gyntaf. Dim yn dod ohoni.

19:48: Dyna’r gic gyntaf.

19:47: Difyr gweld bod Jazz Richards yn cadw ei le yn y tîm ar ôl chwarae cystal yn erbyn Gwlad Belg.

19:45: Dyma’r tîm sy’n dechrau dros Gymru.

Cymru: Hennessey, Gunter, Williams, Davies, Taylor, Richards Edwards, King, Ramsey, Robson-Kanu, Bale

Y newyddion mawr cyn y gêm oedd fod Joe Ledley allan gydag anaf i linyn y gâr. David Edwards, sydd wedi cael dechrau da i’r tymor gyda Wolves sy’n dechrau yng nghanol y cae.

19:43: Croeso i flog byw Golwg360. Mae’r gêm ar fin dechrau, a Chymru wrthi’n morio’r anthem ar hyn o bryd…er bod y band ar dorf yn canu ar gyflymder hollol wahanol (fel arfer!)