Jeremy Prescott fu farw ar ol cael ei daro gan fellten
Mae cwest i farwolaeth dau ddyn a gafodd eu lladd gan fellt tra’n cerdded ym Mannau Brycheiniog wedi dechrau yn Aberdâr heddiw.

Roedd Jeremy Prescott a Robin Meakings yn cerdded ar gopaon cyfagos pan gawson nhw eu lladd ar 5 Gorffennaf eleni.

Clywodd Llys Crwner Aberhonddu fod y tywydd wedi gwaethygu yn ystod y dydd.

Cafodd Jeremy Prescott, 51 oed o Telford yn Sir Amwythig, ei daro ar gopa Corn Du wrth iddo oruchwylio gweithgaredd Gwobr Dug Caeredin.

Cafodd ei daflu i’r awyr ac fe losgodd y mellt ei grys.


Robin Meakings
Cafodd Robin Meakings, 59 o Swydd Surrey, ei daro gan fellt wrth iddo baratoi i ddringo i lawr o gopa Cribyn.

Clywodd y cwest gan ffrind oedd ar ei wyliau gyda Robin Meakings a ffrind arall, Nicolas Earl.

“Roedd Robin yn addasu ei bolion cerdded oedd i lawr wrth ei ochrau – ac roedd Nic yn ei helpu.

“Yn sydyn iawn, roedd fflach o olau gwyn a sŵn cracio fyddarol, ddwys dros ben.

“Yna gallwn i arogli rhywbeth fel lledr neu facwn wedi’i losgi.

“Cafodd Nic ei daflu ymlaen tra bod Robin yn ddisymud ar wastad ei gefn.

“Ro’n i mewn panic, yn gweiddi ar y ddau ohonyn nhw, ‘Deffrwch, deffrwch’.

“Roedd yr ergyd wedi chwythu ei siaced ar agor ac roedd ei frest wedi troi lliw. Y funud honno, ro’n i’n gwybod ei fod e wedi mynd.”

Dywedodd y crwner bod yr amgylchiadau yn “anarferol ac unigryw.”

Mae’r cwest yn parhau.