Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei fab deufis oed wedi ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw.

Fe ymddangosodd Sean Michael Mullender, 22, o Gei Conna yn y llys ar gyfer gwrandawiad cychwynnol.

Cafodd ei gyhuddo ddoe o lofruddio ei fab  Daniel John Mullender, ym mis Hydref 2014.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw gan swyddogion iechyd ar 2 Hydref, 2014 yn dilyn pryderon am fabi oedd wedi cael ei gludo i ysbyty yng Nghaer.

Cafodd y babi ei gludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle bu farw ar 4 Hydref.

Cafodd dyn 22 oed ei arestio ar y pryd a’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad.

Yn dilyn ei ymddangosiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw cafodd Mullender ei ryddhau ar fechnïaeth amodol a bydd yn mynd gerbron llys eto ar 29 Hydref.