Mae dynes wedi cael ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad arni yng Nghaernarfon y bore ma.
Roedd y ddynes yn cerdded yn ardal Cefn Cadnant ger yr orsaf dan tua 9yb bore dydd Iau pam ymosodwyd arni.
Cafodd yr heddlu eu galw a bu’n rhaid cau ffordd yr A4086 tra bod y gwasanaethau brys yn delio gyda’r digwyddiad.
Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor a chredir bod ganddi anafiadau difrifol.
Mae dyn 46 oed, sef partner y ddynes, wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac yn parhau yn y ddalfa.
Mae ymchwiliad Heddlu’r Gogledd yn parhau ac maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod S134595.