Mae gorsaf radio yn bwriadu ehangu ei gwasanaethau Gwyddeleg fel rhan o gynlluniau i hybu’r iaith ymhlith pobol ifanc.

Mae cynlluniau gorsaf radio RTE yn cynnwys darlledu bwletinau dwyieithog ar orsaf 2FM, yn ogystal â gwasanaeth Gwrando Eto yn y Wyddeleg yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae Cynllun Iaith Wyddeleg gorsaf RTE yn cynnwys 93 o argymhellion.

Mae penaethiaid RTE eisoes wedi cadarnhau y bydd pum bwletin dwyieithog ar 2FM rhwng 7 o’r gloch y bore a 7 o’r gloch y nos.

Fe allai’r orsaf newydd gael ei rhedeg ochr yn ochr â Raidio na Gaeltachta a 2FM.

Mae Taoiseach – neu Brif Weinidog – Gweriniaeth Iwerddon, Enda Kenny wedi croesawu’r cynlluniau fel cyfle i hybu a thyfu’r iaith Wyddeleg.