Sameena Imam
Fe fydd achos llys dau frawd sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio dynes o Gaerdydd yn parhau heddiw.

Ddoe, clywodd Llys y Goron Birmingham fod elfennau metelig gwenwynig wedi cael eu darganfod yng nghorff Sameena Imam, 34, ar ôl iddi gael ei chladdu ar randir.

Dywedodd yr arbenigwr, yr Athro Robin Braithwaite wrth y llys fod olion arsenig, tun a mercwri wedi’u canfod ei gwaed, a bod y cyfuniad yn un “anarferol”.

Ychwanegodd nad oes lle i gredu bod yr elfennau wedi cael eu defnyddio at ddibenion meddygol.

Cafodd rhagor o elfennau gwenwynig eu darganfod yn ystod archwiliad post-mortem.

Dywedodd wrth y llys: “Mae’n ymddangos yn rhyfedd iawn y gallai dyn ddod o hyd i ystod mor eang o elfennau.

“Yr unig gasgliad sydd gen i yw fod yr ymadawedig wedi cymryd neu wedi derbyn hylif, o bosib, oedd yn cynnwys yr elfennau hyn.”

Mae’r brodyr Roger a David Cooper yn gwadu ei llofruddio.

Clorofform

Dywed erlynwyr bod Sameena Imam, oedd yn rheolwr mewn archfarchnad yng Nghaerlŷr, wedi cael ei lladd gan ddefnyddio clorofform.

Roedd hi wedi bod mewn perthynas â Roger Cooper.

Mae’r erlynwyr yn honni bod David Cooper, 39, wedi prynu clorofform ar y we fel rhan o gynllwyn i’w lladd ar Noswyl Nadolig.

Dywedodd y patholegydd Dr Frances Hollingbury wrth y llys ei bod hi wedi cwblhau’r archwiliad post-mortem ar gorff Sameena Imam.

Dywedodd fod Sameena Imam wedi cael ei gosod â’i phen i lawr ar ôl cael ei lladd o ganlyniad i wenwyn clorofform.

Mae’r achos yn parhau.