Marcin Kaminski
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw’r dyn y cafwyd hyd i’w gorff yn Afon Taf, Caerdydd ddydd Llun.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ddoe ac fe gadarnhawyd mai Marcin Kaminski, 27 oed, y cafwyd hyd i’w gorff yn y dŵr ar 31 Awst.

Roedd yr heddlu wedi derbyn adroddiadau ar ddydd Sadwrn, 29 Awst bod y myfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar goll.

Cafodd ei weld y tro diwethaf ar ddydd Sadwrn, 22 Awst ym Mhontypridd.

Mae teulu Marcin Kaminski, sy’n byw yng Ngwlad Pwyl, wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn cael cymorth gan swyddogion.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis bod rhagor o brofion yn cael eu cynnal i geisio darganfod sut y bu farw.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am symudiadau Marcin Kaminski rhwng dydd Gwener, 21 Awst a dydd Sadwrn, 29 Awst i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500317677.