Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi barnu Llywodraeth y DU am beidio â chael asgwrn cefn wrth fynd i’r afael â’r argyfwng ffoaduriaid yn Ewrop.

Dywedodd bod Cymru’n barod i “chwarae ei rhan wrth ymateb i’r drasiedi ddyngarol hon.”

Ond ychwanegodd bod  rhain yn “faterion sydd heb eu datganoli ac mae gwir angen i ni weld rhywfaint o arweinyddiaeth gan Lywodraeth y DU ar y mater hwn.

“Dyw hyn ddim am ryw gêm gwyddbwyll diplomataidd, rydym yn siarad am ddioddefaint dynol ar raddfa anferth. Yn anffodus, mae’r Llywodraeth Dorïaidd hon wedi troi cefn ar ei chyfrifoldebau rhyngwladol,” meddai mewn datganiad heddiw.

Aeth ymlaen i alw ar Lywodraeth y DU i gefnogi galwadau Llafur i dderbyn 10,000 o ffoaduriaid, gan ddweud y byddai hynny’n ddechrau da i fynd i’r afael â’r broblem.

‘Lloches i ffoaduriaid’

Yn y cyfamser, mae Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y gallai Cymru fod yn lloches i ffoaduriaid.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar Radio 4, dywedodd y gallai bob cyngor dderbyn rhwng 2 i 3 o deuluoedd o Syria yn sgil yr argyfwng diweddaraf. Dywedodd ei bod am i Gymru osod cwota penodol fel bod Cymru yn gallu chwarae rôl.

Hollti barn

Ar y llaw arall, mae Aelod Seneddol Sir Fynwy wedi hollti barn drwy rybuddio y byddai croesawu ffoaduriaid i’r wlad yn rhoi pwysau mawr ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG).

Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales dywedodd y dylai’r ffoaduriaid aros mewn gwersylloedd sydd ar gael iddynt yn Nhwrci a Gwlad yr Iorddonen.

Dywedodd eu bod yn gwneud penderfyniad economaidd yn hytrach na’n dianc rhag rhyfel.

‘Gwaed ar ei dwylo’

Wrth ymateb i’w sylwadau, mae nifer o bobl wedi ei feirniadu gan gynnwys Hywel Williams, AS Plaid Cymru.

Roedd David Davies wedi cyhuddo cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Anna Nicholl o gael “gwaed ar ei dwylo” dros argyfwng ffoaduriaid Syria.

Mae Hywel Williams wedi cefnogi galwadau Anna Nicholl ar y DU i dderbyn mwy o ffoaduriaid, gan ddweud fod Llywodraeth San Steffan wedi methu chwarae rhan ddigonol mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol hyd yn hyn.

“Mae’r cyhuddiad disynnwyr hwn yn erbyn Cadeirydd y Cyngor Ffoaduriaid yng Nghymru yn datgelu creulondeb y Torïaid pan ddaw’n fater o ddelio ag argyfwng dyngarol Syria.

“Gyda dim i awgrymu fod y brwydro ar fin dod i ben yn y rhanbarth, mae’r mater o ddynion, merched a phlant yn cael eu gwneud yn ddigartref yn sgil y gwrthdaro ffyrnig yn dod yn fwyfwy o frys bob dydd,” meddai’r AS dros Arfon.

Y Cyngor Ffoaduriaid yn ymateb

Ategodd Salah Mohamed, Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru rhai o sylwadau Hywel Williams:

“Dyma’r argyfwng dyngarol mwyaf ers degawdau ac nid yw Llywodraeth y DU yn chwarae ei rhan yn helpu gyda’r argyfwng,” meddai wrth Golwg360.

Wrth ymateb i gwestiwn am sut caiff y ffoaduriaid eu dosbarthu yng Nghymru, dywedodd Salah Mohamed: “O dan y system  ddosbarthu bresennol, bydd 8% o’r ffoaduriaid sy’n dod i’r DU yn dod i Gymru, mae hynny rhwng 2,500 a 3,000 o bobl.

“Caiff y bobl hyn eu dosbarthu ar draws Gogledd Cymru, Gorllewin Cymru, Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd.

“Ond mae’n rhaid sicrhau bod asiantaethau cymorth fel ni yn eu lle er mwyn cynnig cymorth i’r bobl sy’n dod i mewn i’r wlad.”