Tony Blair
Mae’r cyn-Brif Weinidog Tony Blair wedi cyfaddef bod ei lywodraeth wedi gwneud “camgymeriad” wrth ddatganoli pwerau i Gymru a’r Alban, drwy fethu a gwneud digon i sicrhau na fyddai’n tanseilio hunaniaeth  genedlaethol y DU.

Mynnodd Tony Blair ei fod wedi gwneud y penderfyniad cywir i greu cynulliad cenedlaethol yng Nghaerdydd a Chaeredin yn 1999, gan ddadlau y byddai gwrthod galwadau i ddatganoli grymoedd wedi arwain at alwadau am annibyniaeth lwyr.

Ond mewn llyfr newydd,  British Labour Leaders, mae’n cydnabod nad oedd yn deall ar y pryd y pwysigrwydd o gadw undod diwylliannol rhwng gwahanol rannau’r DU.

‘Camgymeriad’

Wrth gael ei holi gan olygyddion y llyfr, y cyn-weinidog yn y Cabinet Charles Clarke a darlithydd gwleidyddol Prifysgol East Anglia, Toby James, dywedodd Tony Blair: “Rydw i yn teimlo ein bod ni wedi gwneud camgymeriad wrth ddatganoli.

“Fe ddylwn ni fod wedi deall, pan ry’ch chi’n newid system y llywodraeth fel bod rhagor o rymoedd yn cael eu datganoli, mae’n rhaid i chi gael ffyrdd o sicrhau undod diwylliannol rhwng Lloegr, yr Alban a Chymru.

“Roedd angen i ni weithio’n galetach i sicrhau ymdeimlad o hunaniaeth  genedlaethol yn y DU.

“Ond nid wyf yn derbyn y syniad na ddylwn ni fod wedi bwrw mlaen gyda datganoli. Os na fyddwn ni wedi datganoli pwerau yna fe fyddai galw mawr wedi bod am wahanu – fel yr oedd nol yn y 60au a’r 70au.”

Mae British Labour Leaders yn cael ei gyhoeddi gan Biteback Publishing ar 8 Medi.