Mae nifer y plant sy’n derbyn addysg feithrin cyfrwng Cymraeg wedi gostwng, yn ôl adroddiad interim Arolwg Defnydd Iaith 2013-2014.

Mae’n dangos bod 66% o’r rhai sy’n rhugl yn y Gymraeg yn y grŵp oedran 30-44 oed wedi derbyn eu haddysg feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bod y ganran hon wedi gostwng i 60% ymysg y rhai sydd rhwng 16 a 29 oed.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos gostyngiad o 12% yn y bron i ddeng mlynedd ddiwethaf yn y rhai rhwng 3 a 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg. 47% oedd yn medru’r Gymraeg yn 2004-06 ond 35% oedd yn ei medru rhwng 2013 a 2014.

‘Angen cymryd camau pendant’

Yn ôl Elinor Jones, sy’n Llywydd Dyfodol i’r Iaith, mae’r ffigyrau hyn yn eu pryderu.

“Mae’n allweddol bwysig  ein bod yn cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws holl lefelau addysg.  Ac yn sicr, mae gosod sylfaen ieithyddol gadarn yn ystod y blynyddoedd cynnar yn hanfodol o safbwynt meithrin rhuglder plant ac annog eu rhieni i ddysgu ac ymarfer yr iaith.”

Yn dilyn yr adroddiad, mae Dyfodol yn galw am archwiliad llawn o’r drefn bresennol ac mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau “pendant” er mwyn mynd ati i droi’r duedd hon ac er mwyn canfod unrhyw “rwystrau a gwendidau o safbwynt darpariaeth, sgiliau a chefnogaeth.”

Mae gan Dyfodol i’r Iaith darged arfaethedig i sicrhau bod 50% o gylchoedd a dosbarthiadau meithrin yn Gymraeg erbyn 2030, ac maent yn dweud mai dyma fyddai’r cam cyntaf tuag at wireddu’r targed hwnnw.