Mae mudiadau iaith ac addysg wedi ymateb i’r pryder a’r posibilrwydd na fydd dosbarth cychwynnol Cymraeg yn agor fis Medi eleni i blant ar safle Ysgol Parc Ninian yng Nghaerdydd.

Bwriad y dosbarth cychwynnol oedd rhoi addysg Gymraeg i blant o fis Medi ymlaen, gan ymddwyn fel “egin” i sefydlu ysgol Gymraeg newydd fyddai’n gwasanaethu Tre-biwt a Grangetown erbyn 2017.

Ond, mae pryder na fydd y dosbarth cychwynnol yn agor oherwydd y nifer fechan o blant sydd wedi cofrestru i fynychu’r ysgol.

Mae’r mudiadau wedi beirniadu Cyngor Caerdydd am beidio â sicrhau bod y cynlluniau’n gweld golau dydd ac, yn ôl llefarydd ar ran Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), mae’n “arwydd o fethiannau ehangach Cyngor Caerdydd mewn perthynas â chynllunio darpariaeth Addysg Gymraeg”.

“Roedd y ffaith na wnaed rhieni yn hysbys o hynny tan fis Mai yn llawer rhy hwyr”, ychwanegodd Michael Jones, ac mae hynny wedi “sigo ffydd a hyder rhieni’r ardal” yn y fenter meddai.

‘Dim digon o blant’

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd mai un o’r rhesymau dros yr oedi i agor y dosbarth cychwynnol oedd nad oedd digon o blant wedi cofrestru i fynychu’r ysgol.

Dywedodd y llefarydd mai dim ond tri theulu sydd wedi cofrestru ar gyfer mis Medi eleni.

“Mae’n bryder enfawr”, meddai Carl Morris, Cadeirydd cangen leol Cymdeithas yr Iaith Caerdydd.

Aeth yn ei flaen i honni nad oedd y Cyngor wedi cymryd camau “priodol” i hysbysu teuluoedd yr ardal “am y cyfle arbennig hwn o fewn eu cymuned”.

Esboniodd Carl Morris o Gymdeithas yr Iaith fod y niferoedd “yn ymddangos yn gymharol iach ar ddechrau’r haf”, ond eu bod wedi lleihau erbyn hyn “oherwydd diffyg gwybodaeth, diffyg sicrwydd a diffyg trefniadau addas ar gyfer rhieni”.

Roedd Michael Jones o RhAG yn poeni hefyd a dywedodd, “dylai clychau rhybudd fod yn canu gan fod problemau niferus i’w canfod ledled y ddinas”.

“Does wybod faint [o blant] sydd wedi’u colli i’r sector cyfrwng Saesneg”, ychwanegodd Michael Jones.

 

‘Gwead cymdeithasol’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, i ymyrryd er mwyn sicrhau bod y cynllun i sefydlu ysgol Gymraeg yn Grangetown yn dwyn ffrwyth.

 

Esboniodd y mudiad iaith y byddai cadw at yr addewid i agor dosbarth cychwynnol cyfrwng Cymraeg yn Grangetown y mis hwn yn gyfle i Arweinydd y Cyngor ddangos ei fod “o ddifrif am y Gymraeg”.

Daw hyn yn dilyn y ffrae am yr iaith wedi i gyngor y ddinas honni nad yw’r Gymraeg yn rhan o ‘wead cymdeithasol’ y ddinas.

“Mae hwn yn gyfle arbennig i chi fel Arweinydd gymryd yr awenau a dangos eich bod o ddifrif am gefnogi’r iaith Gymraeg ar fater sydd o’r pwys mwyaf”, ychwanegodd Carl Morris fel rhan o’i lythyr at Arweinydd y Cyngor.

Mae’r mudiad iaith hefyd wedi galw ar y Cyngor i “unioni eu camgymeriadau” drwy sicrhau fod pob ymdrech yn cael ei wneud i hysbysu rhieni am y bore agored a gynhelir ddydd Gwener am 10yb yn Ysgol Parc Ninian.

Ymateb y Cyngor

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod nhw wedi cyflawni eu hymrwymiad i ddarparu safle addas ar gyfer dosbarth cychwynnol Cymraeg yn Grangetown erbyn mis Medi ac “mae’r holl adnoddau yn eu lle”, meddai.

Ychwanegodd fod Ysgol Gymraeg Pwll Coch wedi trefnu i gwrdd â rhieni i drafod “opsiynau ar gyfer cyflwyno addysg Gymraeg oed derbyn “.

Mynegodd hefyd fod y cyfnod o hysbysu rhieni am y ddarpariaeth newydd wedi bod yn un o “broffil uchel”.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Arweinydd y Cyngor am ymateb pellach.