Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud y gallai Cymru gymryd rôl i helpu ffoaduriaid sydd mewn angen.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar Radio 4, dywedodd Leanne Wood bod gan Gymru “draddodiad balch o roi lloches i ffoaduriaid sy’n ffoi rhag rhyfel” a’i bod yn awyddus i Gymru gymryd ei chwota o ffoaduriaid.

Mae Leanne Wood eisoes wedi dweud y gallai Cymru fod yn lloches i ffoaduriaid.

‘Gosod cwota’

Yn y cyfweliad heddiw dywedodd: “Rwyf wedi bod yn gwylio, mewn arswyd, y lluniau o bobl yn glanio ar lannau gwledydd fel Gwlad Groeg a’r Eidal, os ydyn nhw’n ddigon ffodus i gyrraedd o gwbl. Mae’r lluniau hynny’n ddirdynnol iawn.

“Dywedodd Plaid Cymru ar ddechrau’r argyfwng bod angen ymateb dyngarol ac rwy’n credu y dylai Cymru gymryd rôl yn yr ymateb hwn.”

Ychwanegodd y dylai pob llywodraeth gytuno ar gwota teg: “Rwyf am i Gymru osod cwota penodol fel bod Cymru yn gallu chwarae rôl.

“Mae gennym ni hanes balch yng Nghymru o roi lloches i ffoaduriaid sy’n ffoi rhag rhyfel ac fe ddylai’r holl bleidiau yng Nghymru allu gwneud datganiad ar y cyd a fyddai’n gam cyntaf.”

‘Newid y drefn’

Ddoe, dywedod Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn y dylid newid y drefn o ddosbarthu mewnfudwyr wrth iddyn nhw ddod i wledydd Prydain.

Yn ôl Paul Flynn, mae cyfran y mewnfudwyr sy’n cael dod i’w etholaeth yntau’n rhy uchel o’i gymharu â chyfrannau rhai o ddinasoedd Ceidwadol Lloegr.

Mae ffigurau’n dangos bod 459 o geiswyr lloches yng Nghasnewydd ar hyn o bryd, sy’n gynnydd o 6% ers chwarter cynta’r flwyddyn.

Does gan David Cameron ddim un ceisiwr lloches yn ei etholaeth yntau yn Swydd Rydychen, un yn unig sydd yn etholaeth y Canghellor George Osborne yn Sir Gaer, a phump sydd gan yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May yn Swydd Gaint.