Tref Llandrindod
Mae Pencampwr Tref cyntaf Llandrindod yn cyflwyno’i hadroddiad cyntaf i Weinidog yr Economi, Edwina Hart heddiw.

Cafodd Jude Boutle ei phenodi chwe mis yn ôl fel rhan o gynllun peilot Parth Twf Lleol Powys er mwyn ceisio tyfu economi’r dref.

Ers iddi gael ei phenodi, bu Jude Boutle yn cydweithio â’r gymuned fusnes i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth cyfredol Llywodraeth Cymru.

Mae hyn wedi arwain at drosglwyddo mwy o achosion i gwmni Busnes Cymru, cynyddu entrepreneuriaeth ymhlith pobol ifanc, a datblygu prosiectau Wi-Fi a band llydan cyflym.

Ei phrosiectau nesaf fydd cynnal astudiaeth ddichonolrwydd ar gyfer parc llyn, ac ymgymryd â’r gwaith o ail-frandio’r dref.

Ar Fedi 26, bydd hi’n helpu pobol ifanc i gynnal Marchnad Ieuenctid i hybu’r defnydd o siopau lleol ymhlith y gymuned.

Mae ei phrosiectau eraill yn cynnwys helpu i wella’r ddarpariaeth i seiclwyr yr ardal.

Dywedodd Jude Boutle: “Mae’r amser wedi hedfan. Mae wedi bod yn wych cael cwrdd â busnesau lleol mor flaengar a brwdfrydig, a phobol fusnes sydd am lwyddo go iawn yn eu busnes a’u cyfraniad i lwyddiant y dref.”

‘Manteision’

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Busnes Llandrindod, Justin Baird Murray: “Roedd y grŵp busnes yn ymwybodol drwy’r amser y byddai’n cymryd amser i weld manteision economaidd cael pencampwr tref.

“Ry’n ni bellach yn gweld y manteision hynny ac yn hyderus dros y misoedd nesaf, drwy gydweithio â chyfranddeiliaid yn y dref, y gwelwn ni ragor o gynnydd wrth yrru Llandrindod i mewn i sefyllfa gref fel porth busnes a thwristiaeth i ganolbarth Cymru.”

Ychwanegodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart: “Dw i’n falch o weld y cynnydd mae Jude a’r Grŵp Busnes wedi’i wneud yn y chwe mis ers ei phenodi fel Pencampwr Tref Llandrindod.

“Mae’r swydd yn rhan hanfodol o brosiect Parth Twf Lleol Powys i greu twf economaidd a swyddi yn yr ardal.

“Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y gweithgareddau hyn a mwy o gynnydd dros y chwe mis nesaf.”