Dywed Heddlu’r De eu bod nhw’n awyddus i holi dau ddyn mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol yn Nhredelerch, Caerdydd dros y penwythnos.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Ffordd Prestatyn,  yn Nhredelerch tua 10yh nos Sul, 30 Awst.

Cafodd dyn 19 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau sy’n newid ei fywyd.

Mae’r heddlu’n awyddus i holi John Wall, 28, a Joseph Wall, 21, y ddau o Dredelerch mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Dylai’r ddau ddyn neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, gysylltu â Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500319490.