Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd yn Llanwrtyd
Mae ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi’n dangos bod nifer yr ymwelwyr â Chymru a’r arian maen nhw’n ei wario yn parhau i gynyddu.

Yn ôl ffigurau Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, roedd gwariant ymwelwyr rhwng mis Ionawr a Mai eleni wedi cynyddu 21.5% o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Y cynnydd yn yr un cyfnod drwy holl ardaloedd Prydain oedd 19.1%.

Fe fu cynnydd o 16% hefyd yn nifer y nosweithiau y treuliodd ymwelwyr yng Nghymru yn y cyfnod dan sylw – 3.31 noson yw’r arfer erbyn hyn, o’i gymharu â 2.97 yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Ac wrth i benwythnos Gŵyl y Banc fynd heibio, roedd tyrfaoedd sylweddol wedi heidio i Grand Prix y Môr ym Mae Caerdydd, i Sioe Awyr y Rhyl ac i Bencampwriaeth Snorclo Cors y Byd yn Llanwrtyd.

‘Newyddion calonogol’

 

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Y llynedd, cafodd y diwydiant twristiaeth flwyddyn ddiguro ac mae’n argoeli’n dda iawn ar gyfer y flwyddyn hon hefyd.

“Roedd llawer wedi bwcio i ddod ar wyliau’n gynt yn y tymor eleni ac ym mis Gorffennaf daeth 8.2% yn fwy o ymwelwyr oedd yn talu i ymweld â safleoedd Cadw.

“Mae’n dda iawn gweld ffigyrau mor gryf ar gyfer dechrau’r flwyddyn hefyd – newyddion calonogol i’r diwydiant twristiaeth ac i’r economi yn gyffredinol.

“Rydyn ni’n dal ati i gydweithio’n agos â’r diwydiant i gynnal yr ystadegau gwych hyn, gan fuddsoddi mewn atyniadau o safon fyd-eang megis Surf Snowdonia, lagŵn syrffio fewndirol gynta’r byd, a agorodd ddechrau’r haf. Rydyn ni am ddenu ymwelwyr o bob math i Gymru.

“Bydd y flwyddyn nesaf yn Flwyddyn Antur yng Nghymru – am y tro cyntaf byddwn yn defnyddio dull thematig i hyrwyddo holl atyniadau Cymru a rhoi rhesymau cryf i bobl ddod yma am wyliau.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i gael Blwyddyn Antur lwyddiannus yn 2016 ac rydw i’n siŵr y gallwn wella eto ar y canlyniadau rhagorol hyn.”