Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn
Dylid newid y drefn o ddosbarthu mewnfudwyr wrth iddyn nhw ddod i wledydd Prydain, yn ôl Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn.

Yn ôl Flynn, mae cyfran y mewnfudwyr sy’n cael dod i’w etholaeth yntau’n rhy uchel o’i gymharu â chyfrannau rhai o ddinasoedd Ceidwadol Lloegr.

Mae ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi’n dangos bod 459 o geiswyr lloches yng Nghasnewydd ar hyn o bryd, sy’n gynnydd o 6% ers chwarter cynta’r flwyddyn.

Does gan David Cameron ddim un ceisiwr lloches yn ei etholaeth yntau yn Swydd Rydychen, un yn unig sydd yn etholaeth y Canghellor George Osborne yn Sir Gaer, a phump sydd gan yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May yn Swydd Gaint.

‘Bwrn ar gymunedau’

Mewn darn blog, dywedodd Paul Flynn: “Dydy’r drefn bresennol o ddosbarthu ddim yn gweithio.

“Cafodd ei chreu er mwyn osgoi crynodiad gormodol mewn rhai trefi a dinasoedd ond mae’n fwrn sylweddol ar gymunedau fel ein cymuned ni.

“Yn y cyfamser, mae’r prif etholaethau Torïaidd yn osgoi eu siâr nhw o gyfrifoldeb y wlad i roi lloches i ffoaduriaid.”

Yn ei flog, galwodd Paul Flynn am bolisi newydd a fydd yn defnyddio system decach o ddosbarthu ffoaduriaid i holl ardaloedd Prydain.

Mwy o ardaloedd

Yr ateb, yn ôl Paul Flynn, yw creu mwy o ardaloedd i ddosbarthu’r ceiswyr lloches iddyn nhw.

Dywedodd wrth Golwg360: “Rhaid cael mwy o ardaloedd oherwydd dim ond Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd sydd gyda ni ar hyn o bryd.

“Y syniad yw peidio cael gormod o ffoaduriaid mewn dinasoedd lle mae awyrennau’n glanio.

“Yng Nghymru, ry’n ni wedi rhoi croeso i ffoaduriaid ers canrifoedd ond ar hyn o bryd, mae’n annheg os ydyn nhw i gyd yn dod i lefydd fel Casnewydd.

“Mae modd croesawu mwy o ffoaduriaid i Brydain os yw pawb yn eu derbyn nhw.”

Fe fydd y Ceidwadwyr yn cynnig ateb synhwyrol yn y pen draw, meddai, ond rhaid iddyn nhw hefyd gymryd cyfrifoldeb.

“Dyw e ddim yn deg dweud beth yw beth heb fod wedi cael y profiad eich hun.”