Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yn Aberbargoed ddydd Sul.

Cafodd dyn 40 oed ei gludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ag anafiadau difrifol i’w ben toc cyn 10yh, ac mae e mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd dyn 28 oed ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.