Bydd brechlyn newydd sy’n amddiffyn babanod a phlant rhag Math B o lid yr ymennydd, yn cael ei gynnig o heddiw ymlaen.

Bydd y brechlyn, MenB, yn cael ei gynnig ar draws y DU fel rhan o raglen imiwneiddio plant gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG).

Bydd babanod deufis oed yn cael cynnig y brechlyn, gydag ail ddos yn cael ei gyflwyno i fabanod pedwar mis oed, ac yna brechlyn atgyfnerthol i fabanod 12 mis oed.

Bydd rhaglen dros dro hefyd yn cael ei gyflwyno i fabanod sy’n disgwyl eu brechiadau tri mis a phedwar mis yn ystod mis Medi.

‘Arbed bywydau’

Mae tua 1,200 o bobol – plant a babanod gan fwyaf – yn dioddef o math B o lid yr ymennydd bob blwyddyn yn y DU.

Mae tua un o bob deg o’r rheiny sy’n cael eu heffeithio yn marw, gydag un o bob tri yn dioddef o anableddau yn sgil y clefyd.

Dywedodd Christopher Head, prif weithredwr Ymchwil Llid yr Ymennydd ei fod yn gobeithio y bydd y brechlyn yn arbed nifer o fywydau ac yn arbed nifer o bobl eraill rhag cael anableddau difrifol oherwydd llid yr ymennydd.

Y DU yw’r wladwriaeth gyntaf i gynnig y brechlyn MenB a MenC yn rheolaidd.