Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn mewn tŷ yn  Nhredelerch, Caerdydd nos Sul.

Cafodd y dyn 19 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru a dywed yr heddlu bod ei anafiadau yn rhai “sy’n newid ei fywyd.”

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr eiddo yn Ffordd Prestatyn, Tredelerch tua 10yh nos Sul, 30 Awst neu sydd â gwybodaeth am y person oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500319490.