Afon Taf yng Nghaerdydd
Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff yn Afon Taf yng Nghaerdydd neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 2 o’r gloch prynhawn dydd Llun ar ôl derbyn adroddiadau bod corff wedi cael ei weld yn yr afon.

Bu’r gwasanaethau brys yn chwilio’r afon ac fe ddaethon nhw o hyd i’r corff am 7.17 nos Lun.

Nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.