Pencadlys Cyngor Gwynedd, Caernarfon
Bydd cyfarfod y tu allan i adeiladu Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ddydd Llun nesaf i wrthwynebu cais dadleuol i godi 69 o dai ym Methesda.

Wrth geisio perswadio pwyllgor cynllunio’r Cyngor i wrthod y cais, prif bryder y gwrthwynebwyr yw’r effaith y byddai’r datblygiad yn ei gael ar y Gymraeg yn yr ardal.

Gyda dros 77% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, mae Bethesda ymhlith cadarnleoedd cryfaf y Gymraeg, ond mae’r gymuned ar gyrion dinas Bangor, sy’n lle llawer mwy, a lle mae sefyllfa’r Gymraeg yn llawer gwanach.

“Y farn ydi bod y cais cynllunio yn enghraifft o orddatblygu ac y byddai’r orddarpariaeth yn newid cymeriad ieithyddol a diwylliannol y gymdeithas leol,” esboniodd Ieuan Wyn, un o aelodau Pwyllgor Diogelu Coetmor a gafodd ei sefydlu i wrthwynebu’r datblygiad.

“Nid codi stadau mawr sydd ei angen ond codi clystyrau bychain o dai yn unol â’r gofyn lleol fel eu bod yn plethu i mewn i wead y gymdeithas.”

Pryder arall gan y gwrthwynebwyr yw y byddai’r datblygiad yn difetha tir amaethyddol da yn yr ardal, gan effeithio ar fywoliaeth y tenant.

Ers i gwmni Carter Jonas, ar ran Richard Douglas Pennant, Stad y Penrhyn, gyflwyno cais cynllunio amlinellol i godi stad 69 o dai yng Nghoetmor, Bethesda dros ddwy flynedd yn ôl,  mae Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi derbyn 693 o lythyrau ynghyd â deiseb gyda mil o lofnodion arni yn gwrthwynebu’r datblygiad.

Ymhlith y gwrthwynebwyr mae cynghorau cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandegái, yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad lleol Hywel Williams ac Alun Ffred Jones, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Cylch yr Iaith a Mentrau Iaith Cymru.