Y Cynghorydd Sian Gwenllian y tu allan i Ysbyty Gwynedd, Bangor
Mae angen sefydlu Ysgol Feddygol yng ngogledd Cymru er mwyn ymateb i’r prinder meddygon ar draws y rhanbarth, yn ôl Plaid Cymru.

Rhybuddia Alun Ffred Jones AC y gallai prinder meddygon beryglu dyfodol tymor hir Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

“Mae’r ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Bwrdd Iechyd i ddyfodol gwasanaethau mamolaeth a gynecoleg yn amlygu diffyg doctoriaid fel ffactor yn yr angen am newid,” meddai.

“Un o’r opsiynau sy’n cael ei gysidro yw is-raddio Ysbyty Gwynedd ac mae’n rhaid i ni wrthwynebu hyn hyd gorau’n gallu.

“Yn y tymor hir, mae’n anorfod fod hyfforddi mwy o feddygon a staff meddygol yn ein hardal ni yn rhan o’r ateb, a dyna pam dan ni’n dadlau’r achos dros sefydlu Ysgol Feddygol i’r Gogledd.”

Wrth gefnogi’r alwad, dywedodd y Cyng Siân Gwenllian, Ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru Arfon:

“Mae sôn dro ar ôl tro fod newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethu iechyd yn gorfod cael ei wneud oherwydd diffyg doctoriaid. Ond os nad oes digon o ddoctoriaid yng ngogledd Cymru; Paham nad ydan ni’n eu hyfforddi’n lleol?

“Byddai Ysgol Feddygol ym Mangor yn hwb mawr i’r ardal, yn gwella Ysbyty Gwynedd, y Brifysgol a’r economi leol.”