Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn pwyso ar y Blaid Lafur i uno mewn ymgyrch aml-bleidiol i wrthwynebu Trident.

Daw ei galwad wrth i Ganghellor y Trysorlys, George Osborne, ymweld â Faslane yn yr Alban heddiw i gyhoeddi contractau gwerth £500 miliwn yng nghanolfan llongau tanfor y Llynges Frenhinol yno.

“Wrth i’r Canghellor ymweld a Faslane heddiw i hyrwyddo gwastraffu miliynau’n fwy ar y diwydiant arfau niwclear, mae’n gwneud hynny gyda thoriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus yn gefndir,” meddai Leanne Wood.

“Dyma dystiolaeth pellach o flaenoriaethau anfoesol George Osborne wrth iddo ddangos ei fod yn credu fod mwy o reswm dros wario ar un o greiriau’r Rhyfel Oer nag ar ein ysgolion a’n ysbytai.”

Pleidlais seneddol

Gyda phleidlais seneddol ar adnewyddu Trident ar y gweill y flwyddyn nesaf, dywedodd mai ei gobaith fyddai gweld y Llywodraeth yn cael ei threchu.

“Mater egwyddorol, nid pleidiol, yw hwn,” meddai. “Gyda’r Prif Weinidog a’i blaid yn dal eu gafael ar fwyafrif pitw, mae posibilrwydd go iawn y gellir trechu’r llywodraeth ar Trident yn 2016.

“Mae Plaid Cymru yn gobeithio y bydd arweinydd newydd Llafur yn medru uno ei blaid neu ei phlaid ar y penderfyniad gwariant hollbwysig hwn a rhoi buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus yn llawer uwch ar yr agenda na gwastraffu biliynau ar arfau peryglus a dinistriol.”