Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth am ddyn 27 oed sydd wedi mynd ar goll o Drefforest ger Pontypridd.

Dydy Marcin Kaminski, sy’n 27 oed ac yn hanu o Wlad Pŵyl, ddim wedi cael ei weld ers tua 3 o’r gloch y prynhawn ar Awst 23, pan oedd yng nghanol tref Pontypridd.

Mae’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio yn y brifddinas.

Mae ganddo gysylltiadau â Swydd Gaerlŷr.

Mae Kaminski o faint canolig, yn 5’10” a chanddo wallt brown tywyll a llygaid brown.

Mae’n siarad rhywfaint o Saesneg.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Mark Lewis o Heddlu’r De: “Mae diflaniad Marcin yn anghyffredin iawn ac rwy’n annog unrhyw un sydd wedi ei weld neu sydd wedi bod mewn cysylltiad ag e neu sy’n gwybod ble mae e i gysylltu â Heddlu’r De ar 101 gan roi’r rhif cyfeirnod 499, Awst 29.”