Mae dyn 49 oed wedi cael ei ladd wedi iddo gael ei daro gan gar tra’n cerdded yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffairfach ger Llandeilo am oddeutu 9 o’r gloch nos Sadwrn.

Ffoniodd gyrrwr Vauxhall Corsa coch y gwasanaethau brys wedi’r gwrthdrawiad.

Ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.