Bydd teulu bachgen 12 oed a foddodd yn Nhrearddur y llynedd yn dychwelyd i’r ardal ddydd Sul i gyflwyno siec o £10,000 i’r RNLI.

Cafodd yr arian ei godi trwy Gronfa Isaac Nash, a gafodd ei sefydlu yn dilyn ei farwolaeth.

Bydd y siec yn cael ei chyflwyno yn ystod diwrnod agored.

Cafodd Isaac ei ladd pan gafodd e a’i frawd Xander eu gorchfygu gan don fawr.

Llwyddodd eu tad a’u tad-cu i achub Xander, ond ni chafodd corff Isaac ei ddarganfod.

Mae’r teulu’n gobeithio codi mwy na £100,000 trwy’r gronfa er mwyn sefydlu parc sgwteri ym mhentref Highburton ger Huddersfield, lle’r oedd Isaac yn byw.

Fe fydd plac er cof am Isaac yn cael ei osod ar adeilad yr RNLI yn Nhrearddur.