O gymharu â gweddill gwledydd Prydain a phob un ond un o ranbarthau Lloegr, Cymru sydd â’r gyfran isaf o bobl a aned y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Dyna a ddaeth i’r amlwg mewn ystadegau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos yma.

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf am 2013, dim ond 5.4% o bobl Cymru sydd wedi eu geni y tu allan i’r Deyrnas Unedig, o gymharu â 13.7% yn Lloegr, 6.7% yn yr Alban, a 6.6% yng Ngogledd Iwerddon.

Gogledd-ddwyrain Lloegr yw’r unig ranbarth sydd â chyfran fymryn is o’r boblogaeth (5.2%) wedi eu geni’r tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Yn Llundain, ar y llaw arall, y mae’r gyfran uchaf o lawer (36%) o boblogaeth o’r tu allan i Brydain.

O fewn Cymru, mae’r gyfran yn amrywio rhwng 12.1% yng Nghaerdydd a 1.4% ym Mlaenau Gwent, gyda’r gyfran rhwng 2% a 5% yn y mwyafrif o siroedd.

Mewnfudo o fewn Prydain

Mae’r ffigurau’n cyfateb yn bur agos â Chyfrifiad 2011, gydag awgrym o gynnydd bach yn nifer y mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd, gostyngiad bach yn y mewnfudwyr o weddill y byd a gostyngiad bach yn y nifer a aned ym Mhrydain.

Rhaid dibynnu ar Gyfrifiad 2011 fodd bynnag i gael darlun o  fewnfudo i Gymru o rannau eraill y Deyrnas Unedig.

Gwelwn wedyn fod dros 27% o boblogaeth Cymru wedi eu geni’r tu allan i Gymru, ac o Loegr y daw dros dri chwarter y bobl sydd wedi symud i mewn i Gymru.

Roedd 669,000 o bobl Cymru wedi eu geni yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ac o’r rhain roedd 636,000 wedi eu geni yn Lloegr. Mae hyn yn cymharu â 168,000 a aned y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mannau geni mewnfudwyr Cymru

Wrth ddefnyddio ffigurau Cyfrifiad 2011 ac amcangyfrifon diweddaraf yr ONS, dyma’r gwledydd lle cafodd y niferoedd mwyaf o fewnfudwyr i Gymru eu geni:

Lloegr                                            636,000

Yr Alban                                        24,000

Gwlad Pwyl                                   20,000

Gweriniaeth Iwerddon                11,000

Yr Almaen                                     11,000

India                                       10,000


Poblogaeth Cymru yn ôl mannau geni (ffigurau o Gyfrifiad 2011)