(llun: PA)
Mae aelodau o’r undeb RMT sy’n gweithio i’r cwmni trenau First Great Western wedi cychwyn ar streic dri diwrnod heddiw.

Mae disgwyl y bydd yn tarfu ar wasanaethau trên rhwng de Cymru a Llundain ac ar wasanaethau yn ne-orllewin Lloegr dros y penwythnos, ac mae rhai gwasanaethau eisoes wedi eu canslo.

Mae anghydfod rhwng yr undeb a’r cwmni ynghylch trenau newydd cyflym a phryderon am golli swyddi yn eu sgil.

Dywed yr RMT nad ydyn nhw wedi cael sicrwydd ynghylch diogelu swyddi peirianwyr, ond dywed First Great Western na fydd unrhyw aelod o staff yn colli swyddi yn sgil y newid.