Mae’r cwymp diweddaraf mewn prisiau llaeth gan Gwmni First Milk yn ergyd arall i ffermwyr llaeth, yn ôl Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

Dywedodd Stephen James, Llywydd NFU Cymru fod ffermwyr llaeth mewn argyfwng, “Yr ydym yn nyfnder argyfwng ac mae’r cyhoeddiad am bris llaeth mis Medi yn hynod o siomedig i ffermwyr llaeth.

“Mae’r pris llaeth ar fuarth y fferm ar hyn o bryd yn gwbl anghynaladwy.”

Bu Stephen James yn cyfarfod uwch-swyddogion First Milk i drafod y ffordd ymlaen, fel yr eglurodd, “Mi wnes i gyfarfod First Milk ddoe i bwysleisio’r pryderon ac i dderbyn sicrwydd ganddynt.

“Ar ôl cyfarfod gyda’r uwch reolwyr, cefais fy sicrhau fod y tȋm newydd wedi sefydlogi’r cyfrifon ac fod gan y Prif weithredwr, Mike Gallagher strategaeth glir i wella prisiau llaeth.”

Ychwanegodd, Stephen James fod y diwydiant wedi gweld gwell cefnogaeth gan yr archfarchnadoedd yn ystod yr wythnosau diwethaf , “Byddai symudiad amlwg gan y prif arwerthwyr yn sicr o helpu’r diwydiant a chwmni First Milk.”