Mae dyn wedi’i garcharu wedi iddo drosglwyddo’r feirws HIV i’w gariad – a hynny heb ddweud wrthi ei fod yn diodde’ o’r afiechyd o gwbwl.

Mae’r dyn, na ellir ei enwi er mwyn gwarchod identiti’r ddynes, wedi bod yn HIV positif ers yr 1980au, ond fe ddaliodd ati i gael rhyw gyda’i gariad, a hynny heb ddefnyddio condom.

A hyd yn oed pan ddechreuodd y ddynes deimlo’n sal, ni soniodd ddim wrthi byd bryd hynny chwaith am ei gyflwr.

Yn Llys y Goron Caerdydd, fe blediodd y diffynnydd yn euog o achosi niwed corfforol difrifol, ac mae wedi’i ddedfrydu i 27 mis dan glo.

Fe glywodd y llys mai dim ond pan ddaeth hi o hyd i baced gwag o dabledi, a chwilio ar-lein i weld at ba fath o anhwylder y maen nhw’n cael eu cymryd, y daeth i wybod am yr HIV.

“Roedd hi’n eich caru chi, roedd hi’n eich trystio chi, ac fe ddangosodd hi gryn ofal a chefnogaeth i chi,” meddai’r Barnwr Niclas Parry.

“Mae hi wedi mynd o fod yn fam ddibynadwy, weithgar, ofalus, i fod yn ei chael hi’n anodd gweithredu o ddydd i ddydd… a fedr rhywun ond dychmygu pa fath o drawma iddi oedd gorfod dweud wrth ei phlant.”