Mae reidiwr motobeic wedi’i adael ag anafiadau sy’n bygwth ei fywyd, yn dilyn damwain yn Wrecsam fore heddiw.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i briffordd yr A539 ger tafarn y Cross Foxes yn Owrtyn peth cynta’r bore, ac mae’r ffordd yn parhau ar gau i’r ddau gyfeiriad.

Fe fu’r beic modur mewn gwrthdrawiad gyda char Fiat toc cyn 7.40yb heddiw, meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.