Melissa Bowles (Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am gymorth wrth geisio dod o hyd i ferch 14 oed sydd ar goll o ardal Y Bala.

Does neb wedi gweld Melissa Bowles, sy’n dod yn wreiddiol o Swydd Wiltshire, ers iddi fod yng Nghanolfan Hamdden Y Bala am 2yp brynhawn ddoe (dydd Iau).

Mae Melissa’n 5 troedfedd 5 modfedd o dal, gyda gwallt melyn at ei hysgwydd, ond ei bod yn ei wisgo i fyny gan amlaf.