Fe gafodd pedwar o bobol eu cludo i’r ysbyty neithiwr, wedi tân mewn tŷ yng Nghaerdydd.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei alw i gyfeiriad yn Heol Cyncoed toc tyn 7yh nos Iau.
Roedd y fflamau wedi cynnau yn un o ystafelloedd gwely llawr cynta’r tŷ, ac mae’r awdurdodau’n dal i geisio canfod achos y tân.