Cyngor Sir Benfro
Mae crwner wedi dyfarnu mai damwain oedd marwolaeth dyn mewn pwll yn Sir Benfro yn gynharach eleni.

Bu farw John William Lyall, 56,  wedi iddo ddisgyn i Lyn y Felin yn Sir Benfro ar 16 Ebrill.

Dyfarnodd y crwner heddiw ei fod wedi marw trwy ddamwain.

Mae tri pherson wedi marw mewn digwyddiadau ar wahân yn Llyn y Felin ers dechrau’r flwyddyn.

Mae Cyngor Sir Benfro wedi amddiffyn eu penderfyniad i beidio gosod rhwydi diogelwch o amgylch y pwll gan ddweud na fyddai’n ymarferol.