Y DVLA yn Abertawe
Mae cannoedd o staff canolfan drwyddedu’r DVLA yn Abertawe yn bwriadu cynnal streic tridiau mewn anghydfod dros gyflogau.

Bydd tua 650 o aelodau’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) sy’n gweithio yng nghanolfan alw y DVLA yn Abertawe yn dechrau’r streic ddydd Gwener mewn protest yn erbyn toriadau i’r cyflogau maen nhw’n ennill am weithio ar ddydd Sadwrn.

Dywedodd yr undeb fod staff sydd wedi dechrau gweithio eleni ddim yn derbyn lwfans ar gyfer dydd Sadwrn o gwbl, tra bod eraill yn wynebu toriad o 50%.

Dywedodd y DVLA mewn datganiad y gallai’r streic arwain at lai o wasanaeth ac amserau aros hirach.

Dywedodd Keith Johnston ar ran undeb y PCS fod gweithwyr mewn mannau eraill yn y gwasanaeth sifil yn cael tâl ychwanegol ar benwythnosau.

Ychwanegodd fod y sefyllfa yn “gwbl annerbyniol.”

Yn ogystal, bydd staff Amgueddfa Cymru sy’n aelodau o undeb PCS hefyd yn mynd ar streic ddydd Sadwrn mewn anghydfod ar wahân dros lwfansau penwythnos.