Alun Wyn Jones (canol) fydd yn arwain y tîm yn lle Sam Warburton (dde)
Mae Cymru wedi enwi tîm cryf i wynebu Iwerddon yn eu hail gêm baratoadol cyn Cwpan y Byd – ond dyw’r capten Sam Warburton ddim hyd yn oed ar y fainc.

Bydd y prop Thomas Francis yn ennill ei gap cyntaf ac mae’r asgellwr George North hefyd yn dychwelyd i’r tîm i ennill ei 50fed cap.

Alun Wyn Jones fydd yn arwain y tîm yn absenoldeb Warburton, a dyw tîm hyfforddi Cymru heb esbonio eto pam nad yw’r blaenasgellwr wedi cael ei gynnwys.

Bydd Cymru’n herio Iwerddon dydd Sadwrn yn Nulyn, cyn i’r garfan derfynol o 31 chwaraewr ar gyfer Cwpan y Byd gael ei chyhoeddi dydd Llun 31 Awst.

Tîm Cymru

Gethin Jenkins, Ken Owens, Thomas Francis, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Taulupe Faletau; Rhys Webb, Dan Biggar, George North, Jamie Roberts, Scott Williams, Alex Cuthbert, Leigh Halfpenny

Eilyddion: Scott Baldwin, Paul James, Aaron Jarvis, Luke Charteris, James King, Gareth Davies, Rhys Priestland, Hallam Amos