Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i gopr gael ei ddwyn o archfarchnad Tesco Express ar Heol Casnewydd, Tretomas ger Caerffili.

 

Digwyddodd y lladrad rhywbryd rhwng 11:30 neithiwr a 6 bore heddiw.

Cafodd y pibellau copr eu dwyn o eneradur y tu allan i’r siop.

Er mai dim ond gwerth tua £20 sydd wedi ei ddwyn, mae’r lladrad wedi achosi difrod gwerth o leiaf £10,000 oherwydd bod rhewgelloedd wedi diffodd yn ystod y lladrad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladrad gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 49 27/08/15.