Mae dysgu am goginio ac am gefndir bwyd yn hanfodol i Gymry’r dyfodol, meddai’r cogydd Simon Wright.

Mae’n galw am edrych unwaith eto ar y cwricwlwm er mwyn symud oddi wrth yr hyn mae’n ei alw’n “agwedd iwtalitaraidd at addysg”.

Dywed fod y system addysg bresennol yn un “sy’n seiliedig ar dicio bocsys amrywiol yn ymwneud â chyrhaeddiad a llawer iawn rhy ychydig yn mynd ar bleser dysgu ac ysgogi’r awch am ddysgu mwy”.

Ychwanega mai’r “unig ffordd o newid arferion bwyta plant yw drwy newid eu perthynas â bwyd”.

Mae hynny, meddai, yn cynnwys “annog diddordeb yn hanes a chefndir y bwyd sy’n mynd i mewn i’r corff”.

“Mae’r ymrwymiad yr hoffwn i weld ym maniffestos y pleidiau ar gyfer etholiad mis Mai nesaf yn syml – bod pob plentyn yn gadael y gyfundrefn addysg yng Nghymru yn gallu coginio ac yn gwybod o ble y daw’r bwyd.”

Darllenwch ragor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.