Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi datgelu ei fod yn ystyried cynnwys polisi newydd ym maniffesto’r blaid Lafur i roi prawf ar allu pobol i siarad Cymraeg.

Bwriad hyn, yn ôl Carwyn Jones, yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg drwy roi hwb a statws i’w lefelau iaith.

Esboniodd y byddai cyflwyno profion yn fodd “i ddysgwyr fesur eu gwelliant”.

‘Dim hyder i siarad Cymraeg’

“Un o’r pethe licen i yw cael rhyw fath o system lle mae pobol yn gwybod lle maen nhw, pa fath o lefel o sgil sydd ganddyn nhw, un i bump, un i ddeg neu beth bynnag,” meddai’r Prif Weinidog.

Fe ddywedodd ei fod yn pryderu nad oes gan bobol yr hyder i ddatgan eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg, am nad ydyn nhw’n meddwl fod eu Cymraeg nhw’n ddigon “academaidd”.

“Maen nhw’n gweld Cymraeg ar y newyddion a meddwl ‘os mai dyna yw Cymraeg nid Cymraeg reit sydd gen i’,”.

Ond, mae’r Prif Weinidog yn credu fod angen cydnabyddiaeth ar siaradwyr Cymraeg, ac yn credu y byddai “rhyw fath o brawf” yn rhoi hyder a chefnogaeth i bobol ar wahanol lefelau i siarad yr iaith.

Carwyn Jones sy’n gyfrifol am yr iaith yn Llywodraeth Cymru, ac mae’n ystyried cynnwys y polisi fel rhan o faniffesto ei blaid erbyn Etholiadau’r Cynulliad fis Mai nesaf.

Gellir darllen rhagor am hyn yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.