Geraint Stanley Jones
Mae cyn-bennaeth S4C a BBC Cymru, Geraint Stanley Jones, wedi marw yn 79 oed.

Roedd y darlledwr, a gafodd CBE yn 1993, yn adnabyddus am ei gyfraniadau mewn sawl maes gan gynnwys teledu a’r celfyddydau.

Ar ôl gwneud ei enw yn cynhyrchu rhaglenni teledu, fe aeth ymlaen i fod yn rheolwr ar BBC Cymru rhwng 1981 ac 1985 cyn symud i fod yn brif weithredwr S4C rhwng 1989 ac 1994.

Roedd Geraint Stanley Jones hefyd yn un o gyfarwyddwyr Canolfan Mileniwm Cymru, a chynt yn Gadeirydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn gyfarwyddwr ar Opera Cenedlaethol Cymru.

‘Cyfraniad aruthrol’

Wrth dalu teyrnged i Geraint Stanley Jones dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies fod effaith ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru dal yn cael ei deimlo heddiw.

“Mae cyfraniad aruthrol Geraint i fywyd cenedlaethol a diwylliannol Cymru, dros nifer o ddegawdau, o’n cwmpas ym mhob man,” meddai Rhodri Talfan Davies.

“Ei weledigaeth a’i angerdd ef arweiniodd at sefydlu dwy orsaf radio genedlaethol, cyfres ddrama deledu hynaf y BBC, Pobol y Cwm, ac wrth gwrs, helpu i sefydlu S4C yn 1982.

“Yn fwyaf oll, Geraint o’dd un o’r dynion mwyaf caredig a hael i fi gwrdd â nhw erioed. Na’th e’ byth golli ei gariad at ddarlledu ac ro’dd yn credu’n angerddol yn y cyfleoedd a’r sialensau.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynifer ohonom wedi bod yn ddigon ffodus i elwa o’i eiriau a’i gyngor doeth ar nifer o achlysuron – ac ro’dd ei angerdd tuag at BBC Cymru ac at ddarlledu wastad yn amlwg.

“Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i Rhiannon a’r teulu ar adeg mor drist.”

Teyrnged S4C i ‘Stan’

Mewn teyrnged gan S4C, dywedodd y prif weithredwr Ian Jones a chadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones fod Geraint Stanley Jones yn “un o ffigurau mawr y byd teledu Cymraeg” a’i fod yn “rheolwr arloesol”.

Yn ystod ei gyfnod gydag S4C, roedd yn gyfrifol am ddatblygu cyfresi megis Gemau Heb Ffiniau a’r rhaglen gylchgrawn Heno.

Roedd hefyd yn gyfrifol am gynnal digwyddiad Côr y Byd yn 1993, a than ei arweiniad ef hefyd y cafodd y ffilm Hedd Wyn, a ddaeth a chlod enwebiad Oscar i S4C, ei chynhyrchu.

Dywedodd Huw Jones: “Roedd Geraint Stan, fel roedd pawb yn ei ‘nabod, yn un o ffigurau mawr y byd teledu Cymraeg.

“O fod yn Rheolwr arloesol ar BBC Cymru trwy gyfnod sefydlu S4C i fod yn un o brif reolwyr y BBC yn Llundain ar ddiwedd yr 80au, ac wedyn yn Brif Weithredwr S4C, gosododd ei farc ar bopeth a wnaeth.

“Roedd ganddo weledigaeth eang a rhyngwladol o le Cymru, ei diwylliant a’i systemau darlledu o fewn y byd. Yn S4C arloesodd gyda sefydlu Heno i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a gyda chynyrchiadau animeiddio o safon ryngwladol. Dan ei arweiniad ef y daeth Hedd Wyn a chlod ac enwebiad Oscar i S4C.

“Roedd yn ffigwr amlwg uchel ei barch o fewn yr EBU (Undeb Darlledu Ewropeaidd) a gweithiodd yn galed i sicrhau fod safonau, egwyddorion a rhyddid darlledu cyhoeddus y gorllewin yn sail i rwydweithiau darlledu gwledydd y dwyrain yn dilyn dymchwel Wal Berlin.

“Roedd yn ddoeth ac yn gefnogol  o’i staff, yn herio ac yn sbarduno, yn barod ei gyngor a hirben ei agwedd tuag at wleidyddion a beirniaid. Gwelwn ei golli’n aruthrol.”

‘Braint’

‘Braint’ oedd cael cydweithio gyda Geraint Stanley Jones, meddai prif weithredwr S4C, Ian Jones.

“Yn sicr, fe wnaeth fy ysbrydoli i ar ddechrau fy swydd fel Prif Weithredwr S4C ac rwy’n ei gofio’n dweud nad oedd e’n berson oedd yn edrych ar y manylion, ond ei fod e’n berson syniadau.

“Ei gyngor oedd gwneud yn siŵr fod gen i ormod o syniadau yn y swydd. Mae’r geiriau hynny wedi aros gyda mi, ac rwy’n ddiolchgar am ei arweiniad.”

‘Cawr’

Meddai Elan Closs Stephens, Cadeirydd Cyngor Cynulleidfa Cymru: “Roedd Geraint Stan yn un o gewri y byd darlledu. Roedd yn arloeswr oedd yn credu yn y camau mawr strategol.

“Yn ei gyfnod yn y BBC y lansiwyd Radio Cymru a Radio Wales, Canwr y Byd a Phobl y Cwm. Yn S4C roedd y gwaith animeiddio yn hawlio sylw rhyngwladol i Gymru.

“A thrwy lansio Heno, fe fynnodd fod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Roedd yn ddyn llawn dychymyg, yn ddarlledwr drwy reddf yn ogystal a phrofiad , ac yn eofn wrth gymryd risg.

“Ac i’r rhai ohonom fu yn ffodus i’w nabod fel ffrind, roedd yn gefnogol i’r carn.  Roedd Geraint Stan yn ddyn sbesial iawn. Bydd bwlch mawr ar ei ôl.”

Bydd rhaglen Heno ar S4C heno am 7.00 yn cynnwys teyrngedau gan gyfeillion a chyd-weithwyr fu’n agos ato. Ac mi fydd Newyddion 9 hefyd yn cynnwys teyrnged i cyn Prif Weithredwr S4C a Rheolwr BBC Cymru.