Mae disgwyl i ganolfan syrffio Surf Snowdonia yn Nolgarrog, Conwy ailagor ddydd Sadwrn ar ôl bod ynghau am wythnos.

Fe gyhoeddodd y ganolfan ddydd Mercher diwethaf, 19 Awst, y byddai’r lagŵn syrffio yn cau dros dro oherwydd problemau technegol.

Mae tîm o beirianwyr wedi bod yn gweithio yno i ddatrys y problemau a thrwsio’r lagŵn. Mae’r gwaith wedi para wythnos, ac mae’r ganolfan bellach yn profi ac yn ail-lenwi’r lagŵn ar gyfer dydd Sadwrn.

‘Gweithgareddau’n parhau’

Yn y cyfamser, mae holl weithgareddau eraill y ganolfan wedi parhau fel arfer, gyda’r mannau chwarae, y siopau a’r caffis a’r gwersyll wedi bod ar agor, meddai’r cwmni.

Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan eu bod nhw wedi ad-dalu cwsmeriaid oedd wedi archebu i ddefnyddio’r lagŵn yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd y lagŵn syrffio yn ailagor ar 29 Awst, ond ni fydd y ganolfan yn medru derbyn archebion newydd hyd nes 5 Medi.

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywed y ganolfan eu bod yn “gweithio’n galed i ddatrys y broblem cyn gynted â phosib”.

Iaith

Cafodd y ganolfan syrffio ei beirniadu yn ddiweddar am werthu gwersi syrffio ar ei gwefan mewn 35 o ieithoedd, ond nid y Gymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith roedd nifer o drigolion lleol wedi cysylltu â nhw yn gofidio am “ddiffyg darpariaeth Gymraeg” y cwmni  sydd wedi derbyn £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Fe agorodd y ganolfan ym mis Gorffennaf.