Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod dyn, 38 oed, wedi marw brynhawn ddoe yn dilyn damwain car ger Pencader, Sir Gaerfyrddin.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Honda Civic a Citroen Picasso wrth iddyn nhw deithio ar y B4459 tua 2.35yp, ddydd Mawrth, 25 Awst.

Bu farw’r dyn 38 oed o Alltwalis ar ôl dioddef anafiadau angheuol yn sgil y ddamwain.

Roedd yn gyrru car Honda Civic a dim ond fe oedd yn teithio yn y car hwnnw.

Cafodd gyrrwr y car arall, Citroen Picasso, ei gludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, ond mae’n debyg  nad yw ei gyflwr yn ddifrifol.

Roedd dau arall yn teithio yn y Citroen Picasso, ond ni wnaethon nhw ddioddef unrhyw anafiadau yn sgil y ddamwain.

Mae’r heddlu wedi cysylltu â theulu’r dyn a fu farw, ond nid oes manylion pellach wedi’u rhyddhau amdano hyd yn hyn.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd yng ngorsaf Heddlu Caerfyrddin drwy ffonio 101.