Craig Andrew Steadman
Mae teulu beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 ddydd Llun wedi talu teyrnged iddo.

Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau apelio am wybodaeth ar ôl i Craig Andrew Steadman, 28, o Gaergybi farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Ynys Môn ddoe.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A55 ger Llanfairpwll toc wedi 5.30yh nos Lun, 24 Awst.

Bu’r beic modur mewn gwrthdrawiad a cherbyd a bu farw Craig Andrew Steadman yn y fan a’r lle. Roedd wedi bod yn teithio mewn confoi gyda dau feiciwr modur arall.

Roedd wedi gweithio fel peiriannydd gyda’r Llu Awyr yn Y Fali, fel ei dad o’i flaen, ac yn ddiweddar, roedd wedi gweithio mewn archfarchnad leol.

Bu hefyd yn aelod o griw’r Bad Achub yng Nghaergybi.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei rieni Ray a Sharon Steadman y byddai’n “gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac yn un fyddai’n rhoi eraill yn gyntaf.”

Dywedodd ei bartner, Tracy, fod ganddo “galon o aur”, ac ychwanegodd: “Roedden ni wedi bod gyda’n gilydd ers mis Tachwedd y llynedd. Ef oedd  cariad fy mywyd – y dyn mwyaf caredig, clên ac addfwyn nes i gyfarfod erioed a dwi ond yn dymuno y gallem ni fod wedi treulio gweddill ein bywydau gyda’n gilydd.”

Dylai unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y ddamwain gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101 gan nodi’r cyfeirnod S129152.