Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i feiciwr modur farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Ynys Môn ddoe.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A55 ger Llanfairpwll toc wedi 5.30yh nos Lun, 24 Awst.

Bu’r beic modur mewn gwrthdrawiad a cherbyd a bu farw’r beiciwr modur yn y fan a’r lle.

Roedd y beiciwr modur wedi bod yn teithio mewn confoi gyda dau feiciwr modur arall.

Dylai unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y ddamwain gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101 gan nodi’r cyfeirnod S129152.

Mae’r ddwy lon ar yr A55 bellach wedi ail-agor.